Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (181)v4 |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
|
Cynnig i ethol aelodau i bwyllgorau NDM5440 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol:
(i) Paul Davies (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Busnes yn lle William Graham (Ceidwadwyr Cymreig);
(ii) Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn lle William Graham (Ceidwadwyr Cymreig); a
(iii) William Graham (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o, ac yn Gadeirydd i, y Pwyllgor Menter a Busnes yn lle Nick Ramsay (Ceidwadwyr Cymreig).
|
3 Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: PISA 2012 - Y wybodaeth ddiweddaraf (45 munud)
|
4 Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth: Y wybodaeth ddiweddaraf am yr Adolygiad o Ddarparu Cymorth gyda'r Dreth Gyngor (30 munud)
Dogfennau Ategol Adolygu Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor Adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, ‘Council Tax Support Schemes in England: What Did Local Authorities Choose, and with What Effects?’ (Saesneg yn unig)
|
5 Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Y wybodaeth ddiweddaraf am y Rhaglen Dileu TB mewn Gwartheg (30 munud)
|
6 Dadl: Setliad yr Heddlu 2014-15 (30 munud) NDM5435 Lelsey Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2014-2015 (Setliad Terfynol – Comisiynwyr Heddlu a Throeseddu) a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Chwefror 2014.
Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2014-2015 (Setliad Terfynol – Comisiynwyr Heddlu a Throseddu) - Saesneg yn unig
|
7 Dadl: Dyfodol ein gorffennol - cyfeiriadau newydd ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol yng Nghymru (60 munud) NDM5434 Lelsey Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi cynnydd Llywodraeth Cymru hyd yma o safbwynt ei Strategaeth Amgylchedd Hanesyddol ynghyd â'r camau nesaf yn dilyn yr ymgynghoriad ar "dyfodol ein gorffennol". I weld y Strategaeth Amgylchedd Hanesyddol dilynwch y ddolen ganlynol: I weld yr ymgynghoriad "Dyfodol ein Gorffennol" dilynwch y ddolen ganlynol: http://wales.gov.uk/consultations/cultureandsport/heritage-bill/?skip=1&lang=cy
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â bwrw ymlaen ag uno Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a CADW.
Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi tystiolaeth yn rheolaidd o effaith polisïau treftadaeth ar leihau tlodi yng Nghymru.
Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r newyddion diweddaraf am y gwaith a wnaed i greu Cynghrair Treftadaeth i Gymru neu ymddiriedolaeth cadwraeth treftadaeth genedlaethol.
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno gofyniad statudol bod awdurdodau lleol yn llunio rhestr leol o adeiladau sy’n cael eu hystyried yn asedau hanesyddol yn eu hardaloedd drwy unrhyw Fil Treftadaeth yn y dyfodol, ac i ddarparu canllawiau a pholisïau enghreifftiol ar gyfer eu cynlluniau datblygu lleol i ategu hyn.
Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu categori ar gyfer adeiladau rhestredig sy’n dangos agweddau pwysig ar hanes cymdeithasol, economaidd, diwylliannol neu filwrol lleol.
|
8 Dadl: Cynnig i gytuno ar Femorandwm Llywodraeth Cymru ar y Broses Cydsyniad Deddfwriaethol (30 munud) NDM5436 Lelsey Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi Memorandwm Llywodraeth Cymru ar y Broses Cydsyniad Deddfwriaethol, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 7 Ionawr 2014.
Memorandwm Llywodraeth Cymru ar y Broses Cydsyniad Deddfwriaethol
|
Cyfnod Pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 19 Chwefror 2014